Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Mawrth, 11 Mehefin 2019
Amser:
09. -
10.00
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5476
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Janet Finch-Saunders AC (Cadeirydd) Mike Hedges AC Neil McEvoy AC Leanne Wood AC |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Ross Davies (Dirprwy Glerc) Kathryn Thomas (Dirprwy Glerc) Samiwel Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Datganodd Mike Hedges y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae ei ferch yn aelod o nifer o gorau.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:
· aros am gyhoeddiad astudiaeth ddichonoldeb Llywodraeth Cymru ar yr opsiynau ar gyfer darparu gwasanaethau cerddoriaeth a Chynllun Cenedlaethol ar gyfer Addysg Cerddoriaeth, ac
· ysgrifennu at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a'r Cyngor Addysg Cerddoriaeth i ofyn am eu barn ynghylch y materion a godwyd gan y ddeiseb a'r ddarpariaeth bresennol ar gyfer addysg cerddoriaeth a gwasanaethau addysg cerddoriaeth.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i gynnwys y materion a godwyd yn y ddeiseb mewn sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynglŷn ag ystod o ddeisebau sy'n ymwneud â chynllunio, a drefnwyd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor ar 25 Mehefin.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am farn y deisebydd o ran yr ymateb a roddwyd gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth cyn penderfynu a ddylid cymryd camau pellach ynghylch y ddeiseb.
Ystyriodd y Pwyllgor ragor o wybodaeth gan Lywodraeth Cymru a sylwadau byr gan y deisebydd, a chytunodd i aros am gyhoeddiad gwybodaeth yn deillio o'r arolwg ar gyflwr ysgolion a’r canllawiau newydd ar reoli asbestos mewn ysgolion, a chynnig cyfle i'r deisebydd ymateb yn fanylach, cyn ystyried a yw'n dymuno cymryd unrhyw gamau pellach ynghylch y ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan CBAC a chytunodd i gau'r ddeiseb yn sgil dileu'r ymarfer penodol y cyfeiriwyd ato yn y ddeiseb, y gwaith craffu ar Fagloriaeth Cymru a wnaed yn ddiweddar iawn gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, ac ymrwymiad y Gweinidog i gyhoeddi canllawiau wedi'u diweddaru ar y Fagloriaeth a’r modd y caiff ei haddysgu.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach gan y deisebydd a chytunodd i gau'r ddeiseb yng ngoleuni ymchwiliad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu i Addysgu Hanes a Diwylliant Cymru, ac i roi rhagor o wybodaeth i'r deisebydd o ran sut y gall gyfrannu at hyn.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach gan Lywodraeth Cymru a’r deisebydd a chytunodd i:
· aros am gyhoeddiad canllawiau a phecyn gwrth-fwlio diwygiedig yn hwyrach yn y flwyddyn a’i rannu â’r deisebydd ar gyfer sylwadau;
· gofyn am farn Comisiynydd Plant Cymru, elusennau a chynrychiolwyr ysgolion ynghylch digonolrwydd y polisi a’r rheoleiddio presennol mewn perthynas â bwlio mewn ysgolion, ac
· archwilio ymhellach i sut y gall y Pwyllgor ymgysylltu â Senedd Ieuenctid Cymru ynglŷn â’r mater hwn.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach gan Lywodraeth Cymru, yr Ymddiriedolaeth Ffibrosis Cystig a'r deisebydd, a chytunodd i ysgrifennu at Vertex Pharmaceuticals i'w annog i gyflwyno tystiolaeth i Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan i’w gwerthuso fel mater o flaenoriaeth.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach gan Lywodraeth Cymru a'r deisebydd a chytunodd i ofyn am ragor o wybodaeth am gyfleoedd ar gyfer chwarae a mynediad i fannau chwarae a chyfleusterau chwaraeon i blant a phobl ifanc gan y Gwasanaeth Ymchwil, ac i ysgrifennu at Gomisiynydd Plant Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i holi eu barn am y ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach o ran y ddeiseb a chytunodd i aros am gyhoeddiad Cynllun Aer Glân drafft i Gymru yn hwyrach yn 2019 cyn ystyried cymryd camau pellach ynghylch y ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach gan Lywodraeth Cymru a chytunodd i ofyn am farn y deisebwyr am y wybodaeth yn natganiad y Gweinidog ar 6 Mawrth, cyn ystyried cymryd camau pellach ynghylch y ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach gan Lywodraeth Cymru a’r deisebydd a chytunodd i:
· ysgrifennu at Bwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU i rannu awgrym y deisebwyr fod tystiolaeth ddiweddar yn fwy ffafriol mewn perthynas â manteision posibl rhaglen sgrinio ar gyfer syndrom marwolaeth y galon sydyn, a gofyn a yw'r Pwyllgor yn bwriadu ailystyried y mater hwn, ac
· ysgrifennu at British Heart Foundation a British Cardiovascular Society i ofyn am ei farn ynghylch y materion a godwyd yn y ddeiseb, a’r potensial i gynnal rhaglen sgrinio’r boblogaeth ar gyfer cyflyrau ar y galon heb eu darganfod.
Yng ngoleuni'r wybodaeth a gafwyd gan y Pwyllgor, gan gynnwys yr adolygiad diweddar ynghylch atal ac ymchwilio i droseddau bywyd gwyllt, a’r ffaith bod y Gweinidog wedi gwrthod y cynnig a wnaed yn y ddeiseb, daeth y Pwyllgor i'r casgliad ei bod yn ymddangos nad oes fawr o ddim y gellid ei gyflawni ar yr adeg yma. Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb.
Bu'r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad a chytunodd i aros am sylwadau pellach gan y deisebwyr ynglŷn â’r wybodaeth a roddwyd cyn ystyried a ddylid cymryd unrhyw gamau pellach ynghylch y ddeiseb.
Cytunodd y Pwyllgor i aros am sylwadau pellach gan y deisebydd am y wybodaeth a ddarparodd Lywodraeth Cymru, cyn ystyried a ddylid cymryd camau pellach ynghylch y ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â P-05-850 Amddiffyn Gwastatir Gwent ac atal traffordd arfaethedig yr M4. Yng ngoleuni'r penderfyniad a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog ar 4 Mehefin, a'r gwaith craffu cynhwysfawr a wnaed mewn perthynas â’r mater hwn gan yr Ymchwiliad Cyhoeddus, daeth y Pwyllgor i'r casgliad nad oedd unrhyw gamau pellach y gallai eu cymryd yn realistig, a chytunodd i gau'r ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â P-05-838 Cefnogwch y Llwybr Du o ran Ffordd Liniaru’r M4. Yng ngoleuni'r penderfyniad a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog ar 4 Mehefin, y gwaith craffu cynhwysfawr a wnaed mewn perthynas â’r mater hwn gan yr Ymchwiliad Cyhoeddus, a llwyddiant y ddeiseb, daeth y Pwyllgor i'r casgliad nad oedd unrhyw gamau pellach y gallai eu cymryd yn realistig, a chytunodd i gau'r ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach gan Lywodraeth Cymru a’r deisebydd. Nododd yr Aelodau yr ohebiaeth a chytunodd i godi materion perthnasol yn ystod ei sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol mewn perthynas â nifer o ddeisebau sy'n gysylltiedig â chynllunio yn ei gyfarfod ar 25 Mehefin.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach gan y deisebydd a thrydydd parti a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch yr adolygiad o ofynion diogelwch tân a manylion yr ystyriaeth a roddwyd o ran gwneud ardystiad trydydd parti yn ofynnol ar gyfer gosod systemau llethu tân.
Derbyniwyd y cynnig.
Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu i ofyn am safbwyntiau amrywiaeth o sefydliadau ynghylch yr achos o blaid, a’r goblygiadau posibl, pe bai dull apelio ar gyfer cynigion i gau ysgolion yn cael ei gyflwyno, gan gynnwys: